Tudalen Hafan / Home Page

Ein gwasanaethau a sut i dalu amdanynt



Os nad oes modd i chi ymweld â ni'n bersonol, rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau copïo, yn ogystal â gwasanaeth ymchwilio.

Gwneir pob gwaith copïo dan amodau'r Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth hawlfraint. Ni fyddwn yn fodlon sganio na llungopïo dogfen os oes unrhyw berygl y gallai hynny niweidio'r ddogfen, ond dan yr amgylchiadau hyn efallai y bydd modd tynnu ffotograff ohoni yn lle hynny. Os byddwch yn ymweld â ni cewch ddefnyddio eich camera eich hun yn ddi-dâl, os yw'r Archifydd yn fodlon (dan amodau'r cyfyngiadau uchod).

Pan fyddwch yn cael gwneud copi o ddogfen, bydd angen i chi argraffu datganiad hawlfraint, ei lofnodi, a'i ddychwelyd atom ni ynghyd â'ch taliad.

Copïo


• Llungopi A4 du a gwyn – 15 ceiniog
• Llungopi A3 du a gwyn – 30 ceiniog
• Llungopi A4 lliw – 50 ceiniog
• Llungopi A3 lliw – £1
• Sgan neu ffotograff digidol – £2 y ddelwedd
• Allbrint cyfrifiadurol – 50 ceiniog y dudalen neu'r ddelwedd

Bydd yna hefyd ffi am bacio a phostio (fel arfer rhwng £1.50 a £2.50).

Ymchwil


Cost ein gwasanaeth ymchwil yw £15 yr awr. Noder bod y ffi ar gyfer yr amser a dreulir ar yr ymchwil; ni ellir gwarantu canlyniadau.

Ar ôl i ni dderbyn ymholiad, byddwn yn gwneud yr ymchwil gychwynnol yn rhad ac am ddim; mae'r ffi uchod ar gyfer unrhyw waith ychwanegol a wneir. Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn brysur iawn, a gall gymryd peth amser i ni ymateb i ymholiadau. Ni allwn gynnig gwasanaeth ymchwil ar sail blaenoriaeth/brys.

Hen gofrestriadau moduron


Gweler tudalen Cofnodion Trwyddedu Cerbydau Modur.

Dulliau o dalu


Rydym yn derbyn taliadau drwy siec (yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion), Archeb Bost a stampiau, neu arian parod (a anfonir ar eich cyfrifoldeb eich hun). Mae'r cyfeiriad ar dudalen Cyswllt.

Anerchiadau


Os hoffech wybod rhagor am waith y Gwasanaeth Archifau, efallai y byddech yn hoffi i aelod o'n staff fynychu cyfarfod o'ch grwp neu gymdeithas.

Mae ein staff bob amser yn hapus i gyflwyno sgwrs neu ddarlith, naill ai mewn lleoliad o'ch dewis chi, neu yn yr Archifdy ei hun.

Gellir trefnu sgwrs neu ddarlith yn Gymraeg neu Saesneg. Mair Humphreys sy'n cyflwyno'r rhai Cymraeg, a Helen Palmer, Ania Skarzynska a Mair Humphreys y rhai Saesneg.

Er nad ydym fel arfer yn codi ffi am gyflwyno sgwrs neu ddarlith oddi mewn i Geredigion, rydym bob amser yn falch o dderbyn cyfraniadau. Awgrymwn gyfraniad o £10.00 ar gyfer grwpiau bach, a rhwng £10.00 ac £20.00 ar gyfer grwpiau mwy. Rydym yn sylweddoli, fodd bynnag, nad oes gan rai clybiau a chymdeithasau bach lawer o arian wrth gefn; peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag cysylltu â ni os hoffech glywed am waith y Gwasanaeth Archifau.


Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffenol er lles y dyfodol
Gweinyddu