Chwilio

 
 

Adnoddau Ymchwil



Croeso i'n tudalen newydd ar Adnoddau Ymchwil.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi casglu amrywiaeth o ganllawiau, rhestri, awgrymiadau, tipiau ac erthyglau - ac yn awr, mae'n bryd iddynt fod ar gael i chi! Hyderwn y byddant o ddiddordeb a chymorth i chi. Os oes yna bwnc yr hoffech inni gynnwys, mae croeso ichi gysylltu a ni ac fe geisiwn ei ychwanegu yn y dyfodol.

NEWYDD! Ar gael am ddim! Tai'r Borth gan Beryl Lewis: Hanes bob adeilad yn Y Borth!
Station Terrace, Y Borth


NEWYDD! Lawrlwythwch ein llyfryn am fapiau: Edrychwch yn Ofalus: Arolwg o Sir Aberteifi
Clawr


NEWYDD! Am ddim! Dau lyfr gan Nigel Richardson am Ysgol Uppingham a'i chysylltiad gyda'r Borth. Mae un yn adrodd y hanes o safbwynt Uppingham, a'r llall o safbwynt y Borth.

DS. Holltwyd y llyfrau i ddwy ran oherwydd cyfyngiad ar faint ffeiliau ar ein gwefan

ADX/847/8
A Spring Invasion: Uppingham School at Borth 1876-7 (rhan 1)
A Spring Invasion: Uppingham School at Borth 1876-7 (rhan 2)

ADX/847/9
A Great Deliverance: Uppingham's Typhoid Epidemic 1875-7 (rhan 1)
A Great Deliverance: Uppingham's Typhoid Epidemic 1875-7 (rhan 2)


A hoffech dipyn o gymorth wrth hel achau? Edrychwch yma i ddechrau.

Beth am ymchwilio i hanes tai? Dyma ychydig o arweiniad

Os bydd angen cymorth arnoch gyda geiriau Saesneg wrth ymchwilio i hanes eich teulu, er enghraifft - geiriau ar garreg bedd, mae yna gymorth wrth law.

Ydych chi wedi'ch drysu gan enwau strydoedd Aberystwyth yn newid dros y blynyddoedd? Efallai eich bod yn cofio colofn Will O'Whispers ar hanes a chwedlau lleol yn y Cambrian News. Bellach, mae Mr. O'Whispers (Howard C. Jones) ei hun wedi rhoi caniatad inni osod ei nodiadau ar enwau strydoedd Aberystwyth ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi gweithio gyda mapiau hen a newydd o Aberystwyth i lunio tabl sy'n olrhain y newidiadau i enwau strydoedd.

Sut oedd dogfennau'n cael eu copio cyn dyfeisio llun-gopiwyr? Mae'r erthygl hon gan y Dr. Brian Davies (a atgynhyrchwyd yma gyda'i ganiatad) yn datgelu'r cyfan.

Pwy oedd perchennog hen dractor, car, beic modur a chofrestriad Sir Aberteifi (EJ)? Yn ein Cronfa Ddata chwiliadwy o Rifau Cofrestru Cerbydau fe ddewch chi o hyd i'r ateb!

Wrthi'n ymchwilio hanes milwr neu forwr yn ystod y Rhyfel Mawr? Mae'r gronfa ddata hon yn darparu enwau pleidleiswyr milwrol a oroesodd y rhyfel.

Beth am ychydig o arweiniad am hawlfraint o'r Archifau Cenedlaethol? Sylwch ar y siartau yn yr atodiad. Os oes angen mwy o gymorth, gofynnwch i archifydd!

Datblygwyd y wefan gan Technoleg Taliesin
Gweinyddu