NewyddionGellir cael hyd i'n hen newyddlenni (mewn fformat .pdf) fan hyn. Mae ein gwefan newydd yn fyw!Dros y 7 mis diwethaf buom wrthi'n gweithio ar y prosiect Drws i'r Gorffennol er mwyn sicrhau bod mwy o'r deunydd sydd gennym yn ein harchifau ar gael yn hwylus i'n defnyddwyr. Y prosiect hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o welliannau a wnaed gan Archifau Ceredigion dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n dod yn sgil Symud Ymlaen, prosiect cynharach i gynnal archwiliad llawn o'n deunydd cyn inni adleoli. Gwnaed archwiliad trylwyr o bob blwch yn yr archif, gan sicrhau bod gennym gofnod cywir o'n holl gasgliadau, a'u bod yn gyflawn ac wedi'u storio'n gywir, i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n barhaol. Helpodd hyn ni i drefnu'r broses o symud yr archifau o'r storfa eiconig ond hynod o anaddas yn Swyddfa'r Sir, (Queen's Hotel gynt) ar lan y môr yn Aberystwyth, i'n hadeilad safonol newydd yn Neuadd y Dref Aberystwyth ar ei newydd wedd. Roedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ddiweddaru a gwella'n catalogau a'n gwefan, ac i'r perwyl hwnnw y dyfeisiwyd y prosiect Drws i'r Gorffennol. Roedd amcanion y prosiect yn cynnwys: • llwytho nifer o gatalogau casgliadau newydd ar ein gwefan er mwyn caniatáu mynediad o bell i fwy o'n casgliadau • ad-drefnu ac ailfformatio nifer o'n catalogau presennol ar y we i'w gwneud yn haws eu defnyddio, a sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau catalogio archifau cyfoes. • uwchraddio'n gwefan – yn bennaf peiriant chwilio mwy cywir a dibynadwy gwella ymarferoldeb gweinyddol y wefan Hyd yn hyn mae tua 950 o gatalogau newydd wedi'u cyflwyno, gyda mwy i ddod. Mae dros 200 o hen gatalogau wedi'u hailfformatio hefyd, gyda 440 pellach i ddod. Mae ein gwefan wedi'i huwchraddio gyda'r peiriant chwilio newydd, sy'n fwy dibynadwy o lawer na'r hen un, ac mae'r swyddogaethau gweinyddol newydd, sy'n wirioneddol gyflymu'r broses o sicrhau bod catalogau newydd ar gael ar-lein, ar waith erbyn hyn. Hoffem ddiolch i Drew Westerman, ein swyddog prosiect am Symud Ymlaen yn ogystal â Drws i'r Gorffennol. Daeth Drew atom yn syth ar ôl ymgymhwyso fel archifydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dilyn profiad defnyddiol iawn cyn y cwrs yn archwilio casgliadau yn Archifau Gorllewin Morgannwg. Yn 'geek' yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, mae wedi mynd ati gydag amynedd anhygoel a sylw diflino i fanylder yn ystod bob cam o'r ddau brosiect. Gyda Symud Ymlaen a Drws i'r Gorffennol Drew fu prif hwylusydd y newidiadau a'r gwelliannau, gan helpu i greu'r gwasanaeth archif rydym yn ei fwynhau heddiw. O ran Drws i'r Gorffennol rhaid diolch hefyd i Nigel Callaghan, Technoleg Taliesin, a wrandawodd ar ein gofynion, gan weithio gyda ni i wneud ein gwefan yn well i'n defnyddwyr ledled y byd. Hoffem ddiolch hefyd i wasanaethau cyfieithu a TG gwych a goddefgar Cyngor Sir Ceredigion am eu gwaith yn gwireddu'n gweledigaeth. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i CyMAL am ddarparu cyngor ac arian grant ar gyfer y ddau brosiect. Heb y gefnogaeth honno ni fyddai'r un o'r ddau wedi bod yn bosib. Rydym wedi symud ac ailagor!Mae Archifdy Ceredigion wedi ailagor i'r cyhoedd yn ein cartref newydd sef hen Neuadd Tref Aberystwyth ym Morfa Mawr. Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda wrth inni ddelio â manion y symud ac addasu i'n gweithle newydd. Mae ein horiau agor yn ôl i'r drefn arferol erbyn hyn. Mwy o newyddion a lluniau cyn bo hir. Diweddariad am yr ail-leoliadYn dilyn yr oedi (anochel efallai), byddwn yn symud i'r adeilad newydd ym mis Ebrill. Bydd ein horiau agor cyfyngedig (gweler isod) yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth. Yna, byddwn ar gau i'r cyhoedd drwy gydol mis Ebrill gan obeithio ailagor yn gynnar ym mis Mai. Gwyliwch y gofod hwn! Lluniau o'n cartref newydd![]() ![]() ![]() ![]() ![]() Archifdy Ceredigion yn symud!Ar ddechrau 2012 bydd Archifdy Ceredigion yn symud i Hen Neuadd y Dref, Aberystwyth (efallai bydd enw newydd ar gael erbyn hynny). Cafodd yr adeilad ei drawsnewid er mwyn ei ddefnyddio'n Archifdy'r Sir, Llyfrgell Aberystwyth a Chanolfan Dydd Aberystwyth. Bydd yr ystafell-chwilio newydd ar y llawr cyntaf, yn hygyrch drwy risiau neu lifft, ac o fewn ychydig o fetrau'n unig o adran hanes lleol y llyfrgell. Bydd yr ystafelloedd cadarn yng nghefn yr adeilad ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf; cawsant eu dodrefnu i ufuddhau i Safon Brydeinig BS5454, ar gyfer cadwraeth defnydd archifol. Yn yr ystafelloedd cadarn, ceir silffoedd symudol drwyddynt, a system atal- tân nwy. Wrth imi ysgrifennu hwn, mae'r ystafelloedd cadarn yn dal i gael eu datblygu, ond gobeithir cael tri chyfrifiadur i'r cyhoedd yn ogystal â'r hen beiriannau micro-ffurf. Bydd yma ford fawr i'r rhai sy'n chwilio a chistiau mapiau er mwyn dod o hyd i'r mapiau mwyaf poblogaidd yn hwylus. Rydym wedi achub rhai o'r cypyrddau llyfrau derw o'r Neuadd y Dref wreiddiol ac yn gobeithio defnyddio'r rhain ar gyfer ein casgliad ymgynghori. Mae'r hen staff dymunol yn dal yma i roi cymorth ichi gyda'ch ceisiadau (bydd pawb ac eithrio Anne Martin yn trosglwyddo i'r Archifdy newydd. Mae Anne wedi ymddeol yn ddiweddar). Edrychwn ymlaen at estyn croeso ichi i'r Archifdy Ceredigion newydd yng Ngwanwyn 2012. Gwyliwch yma am fwy o wybodaeth. Archifdy Ceredigion - gofalu am y gorffennol er lles y dyfodol
|